Mae cwmnïau tybaco wedi mynd i’r Uchel Lys i herio cyfreithlondeb rheolau newydd Llywodraeth y DU ynglŷn â phecynnau plaen ar gyfer cynnyrch tybaco.
Mae pedwar cwmni tybaco mwyaf y byd wedi dwyn yr achos yn erbyn rheoliadau sy’n dod i rym ym mis Mai, a fydd yn eu gwahardd rhag defnyddio unrhyw frandio ar becynnau cynnyrch tybaco.
Bydd gofyn i’r barnwr Mr Ustus Green ddyfarnu a yw’r rheoliadau newydd yn gyfreithlon mewn adolygiad barnwrol gan y cwmnïau Phillip Morris International, British American Tobacco, Imperial Tobacco a Japan Tobacco International.
Mae’r achos yn cael ei herio gan Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Jeremy Hunt, sy’n dadlau bod y rheoliadau yn gyfreithlon.
Mae’r cwmnïau yn dadlau y bydd y rheoliadau’n dinistrio eu hawliau eiddo gwerthfawr ac yn ei gwneud hi’n amhosibl i wahaniaethau rhwng eu cynnyrch.
O dan y rheolau newydd, bydd y rhannau hynny o’r pecynnau tybaco sydd heb eu gorchuddio gan rybudd iechyd, yn gorfod bod yn lliw brown tywyll neu wyrdd, a bydd enwau’r brand mewn llythrennau bach.
Mae Llywodraeth y DU yn dadlau y bydd y mesur newydd yn annog pobol i beidio â smygu.