Michael Adebolajo (Llun PA)
Mae un o’r dynion a lofruddiodd y milwr Lee Rigby yn ceisio hawlio iawndal ar ôl iddo golli dau ddant mewn digwyddiad gyda swyddogion yng ngharchar Belmarsh ddwy flynedd yn ôl,

Cafodd Michael Adebolajo ei ddedfrydu’r llynedd ynghyd â Michael Adebowale am lofruddio’r ffiwsilwr 22 oed yng ngolau dydd, ger barics Woolwich yn ne-ddwyrain Llundain ym mis Mai 2013.

Yn dilyn y llofruddiaeth roedd Adebolajo wedi honni bod pump swyddog carchar wedi ymosod arno a’i fod wedi colli dau ddant yn y digwyddiad yng ngharchar Belmarsh, sy’n cadw rhai o droseddwyr mwyaf peryglus Prydain.

Gwahardd

Cafodd y swyddogion eu gwahardd o’u gwaith ar ôl y digwyddiad ond yn ddiweddarach fe benderfynwyd nad oedd achos i’w ateb, gyda Chymdeithas y Swyddogion Carchar yn mynnu eu bod wedi defnyddio technegau sydd wedi’u cymeradwyo er mwyn atal Adebolajo.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn y byddai’n herio’r cais am iawndal.

Cafodd Adebolajo ei garcharu am oes, heb obaith o barôl, am lofruddio Lee Rigby.