Achub pobol yn Cumbria (llun RNLI Cymru)
Mae Heddlu Cumbria wedi annog pobol un pentref i aros yn eu cartrefi ar ôl i afon orlifo unwaith eto.
Fe fu glaw trwm dros nos gyda dŵr yn llifo trwy bentref Glenridding gan godi i dair troedfedd mewn mannau, a hynny wrth i’r gymuned ddechrau ar y gwaith o glirio’r llanast yn sgil Storm Desmond dros y penwythnos.
Bu aelodau’r fyddin a’r gwasanaeth tân yn gweithio dros nos yn dilyn pryderon y gallai’r llifogydd diweddaraf beryglu bywydau.
‘Hynod o beryglus’
Dywedodd Heddlu Cumbria y bore yma bod y dŵr wedi dechrau cilio ond bod y sefyllfa’n parhau’n “hynod o beryglus”.
Maen nhw’n annog trigolion Glenridding i aros yn eu cartrefi ac i beidio â cherdded neu deithio drwy’r llifogydd ac mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi’r ardal.
Ddoe, fe gyhoeddodd y Llywodraeth bod cronfa o £51 miliwn ar gael i helpu cartrefi a busnesau sydd wedi’u heffeithio gan y llifogydd ac fe fydd gostyngiadau trethi lleol i rai hefyd.