Y lori ludw wedi'r ddamwain
Yn ol adroddiad i ddamwain lori ludw yng Nglasgow, pan gafodd chwech o bobl eu lladd, roedd y gyrrwr wedi “camarwain meddygon yn fwriadol” ynglŷn â’i gyflwr meddygol.

Cafodd 15 o bobol eraill eu hanafu ar ôl i lori’r cyngor golli rheolaeth yng nghanol y ddinas ar 22 Rhagfyr y llynedd.

Roedd y lori wedi teithio ar hyd y pafin yn Stryd Y Frenhines cyn dod i stop ar ôl taro Gwesty’r Millennium yn Sgwâr George.

Roedd gyrrwr y lori, Harry Clarke, 58, wedi llewygu wrth y llyw gan golli rheolaeth o’r cerbyd.

Mae ymchwiliad i’r digwyddiad wedi darganfod bod Harry Clarke wedi “dweud celwydd am ei gyflwr droeon er mwyn cadw swyddi a’i drwyddedau.”

Dywed yr adroddiad ei fod wedi “celu gwybodaeth berthnasol rhag y DVLA yn fwriadol.”

‘Peryglon’

Dywedodd  y Siryf John Beckett ei fod yn gobeithio y bydd yr adroddiad yn “codi ymwybyddiaeth am y peryglon o yrru gyda chyflwr meddygol a allai olygu bod y gyrrwr yn colli rheolaeth o gerbyd.”

Ychwanegodd y gallai’r ddamwain fod wedi’i hosgoi petai camau rhagofal wedi cael eu gweithredu ac mae wedi gwneud 19 o argymhellion a fyddai’n lleihau’r tebygolrwydd o ddigwyddiad tebyg.

Bu’r ymchwiliad yn clywed tystiolaeth dros gyfnod o bum wythnos yn Llys y Siryf Glasgow ym mis Gorffennaf ac Awst eleni.

Yn ystod y gwrandawiad bu gweithwyr y gwasanaethau brys, staff y cyngor, meddygon, arbenigwyr damweiniau a’r rhai oedd yn teithio yn y lori ludw ar y pryd – gan gynnwys Harry Clarke – yn rhoi tystiolaeth.

Clywodd yr ymchwiliad bod gan Harry Clarke hanes o broblemau iechyd yn dyddio nôl i’r 70au – gan gynnwys llewygu yn 2010 pan oedd wrth lyw bws a oedd yn llonydd ar y pryd.

Ond nid oedd wedi datgelu ei gefndir meddygol wrth ei gyflogwyr na’r DVLA.

Mae rhai o’r teuluoedd wedi awgrymu y byddan nhw’n nhw dwyn achos preifat yn ei erbyn.

Cafodd adroddiad llawn y Siryf John Beckett ei gyhoeddi heddiw.