Edwina Hart
Mae Gweinidog yr Economi wedi cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn dyfarnu gwerth £50m o gontractau newydd i ddatblygu gwasanaeth Busnes Cymru dros y pum mlynedd nesaf.
Mae disgwyl i’r contractau ddod i rym erbyn Ionawr 2016, ac fe fydd yn ehangu gwaith Busnes Cymru, sy’n rhan o Lywodraeth Cymru, i greu 10,000 o fusnesau a 28,300 o swyddi newydd.
Ar hyn o bryd, mae contract Busnes Cymru yn rhoi cymorth i unigolion a chwmnïau sydd am sefydlu busnes. Mae’n cael ei redeg gan gonsortiwm Busnes mewn Ffocws, Antur Teifi a Peninsula Enterprise.
Fe fydd y cyllid o £50m yn cefnogi entrepreneuriaid ifanc hyd at 25 oed i wireddu eu cynlluniau busnes. Bydd y cyllid hefyd yn ychwanegu £215 miliwn at economi Cymru drwy gynyddu’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n cael eu hallforio o Gymru.
Fel rhan o’r rhaglen, byddan nhw hefyd yn gweithio i wella band eang Cymru gan gyfrannu at y rhaglen Cyflymu Cymru.
Cyllid o Gymru ac Ewrop
Fe ddaw’r cyllid gan Lywodraeth Cymru a hefyd Cronfeydd Strwythurol Ewrop.
“Mae ein gwasanaeth Busnes Cymru eisoes yn llwyddiannus – ond gyda’r cyllid hwn o Ewrop bydd Busnes Cymru’n gallu ehangu a thargedu cymorth at fusnesau hen a newydd sy’n dangos potensial i dyfu ac i allforio,” meddai Edwina Hart, Gweinidogyr Economi.
Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt fod y buddsoddiad yn gyfle i “ehangu’r gwasanaeth a rhoi rhagor o gyngor a chefnogaeth i fusnesau.”
“Bydd yn ychwanegu gwerth at amcanion Llywodraeth Cymru i gryfhau’r economi a’r farchnad lafur gan helpu busnesau i ehangu a chreu swyddi newydd,” meddai Jane Hutt.