Mae disgwyl i Weinidogion o bob rhan o’r byd gyrraedd cytundeb newydd ar newid hinsawdd cyn diwedd yr wythnos hon.

Daw hyn fel rhan o ail wythnos trafodaethau’r Cenhedloedd Unedig ym Mharis.

Maen nhw eisoes wedi cytuno ar ddrafft cynnar o’r cytundeb, sy’n cynnwys mesurau i geisio atal y tymheredd rhag codi’n uwch ac osgoi newidiadau peryglus yn yr hinsawdd.

Er hyn, mae rhai materion allweddol sydd angen eu datrys. Mae’r rheiny’n cynnwys gosod nod tymor hir erbyn ail hanner y ganrif i leihau allyriadau sy’n achosi newid hinsawdd.

‘Cyfaddawdu’

Mae’r cytundeb hefyd yn amlinellu y byddan nhw’n darparu cyllid i gynorthwyo gwledydd tlawd i ymdopi â chynhesu byd-eang. Ond, mae angen dod i gytundeb ar sut y byddan nhw’n gwahaniaethu rhwng gwledydd tlawd a chyfoethog wrth weithredu.

Fe ddywedodd Amber Rudd, Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd y DU: “Fe fydd angen cyfaddawdu a gwneud penderfyniadau anodd, a hynny gennym ni i gyd.”

Er hyn, mae Prif Weithredwr WWF y DU wedi galw ar yr Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd i ddangos “arweinyddiaeth”.

“Mae angen cytundeb teg, uchelgeisiol a thrawsffurfiol erbyn dydd Gwener,” meddai David Nussbaum, Prif Weithredwr y WWF.

Mae Ffrainc wedi galw am ddrafft terfynol o’r cytundeb erbyn dydd Iau, ond mae disgwyl i’r trafodaethau ddirwyn i ben ddydd Gwener.