Mae ardaloedd o ogledd Cymru a gogledd Lloegr yn wynebu effeithiau Storm Desmond a darodd y Deyrnas Unedig dros y penwythnos.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhyddhau dau rybudd coch am lifogydd i ddwy ardal yng ngogledd Cymru, sef Dyffryn Conwy a Dyffryn Dyfrdwy Isaf rhwng Llangollen a Dolydd Trefalun.
Mae chwe rhybudd oren am lifogydd wedi’u rhyddhau i rannau eraill o Gymru.
Biwmares
Roedd pryder hefyd brynhawn ddoe y byddai rhaid symud pobol o’u cartrefi yn nhref Biwmares, Ynys Môn.
Roedd y gwasanaethau brys yn poeni y byddai’r ffos o amgylch y castell yn gorlifo ac yn llifo i’r dref.
Fe agorodd canolfan hamdden y dref ei drysau i ddarparu lloches i drigolion a allai gael eu heffeithio, ond fe lwyddodd y Frigâd Dân i rwystro’r llifogydd rhag digwydd.
Cumbria
Ond, ardal Cumbria yng ngogledd Lloegr a effeithiwyd waethaf gan y storm, ac mae rhybudd y gallai’r dilyw barhau wrth i’r bobol leol geisio adfer eu cymunedau.
Fe dorrodd y glawiad record yn Honister, Cumbria rhwng nos Wener a nos Sadwrn, gyda 341mm o law yn disgyn mewn 24 awr, sy’n gyfwerth â mis a mwy o law o fewn un diwrnod.
Mae swyddogion y Fyddin yn parhau i wasanaethu yno heddiw, wedi iddyn nhw gael eu galw i Gaerliwelydd ddoe i gefnogi gwaith y gwasanaethau brys wrth symud pobol o’u cartrefi
Dros y Sul, roedd tua 60,000 o gartrefi heb drydan, ac mae disgwyl i o leiaf 20 o ysgolion barhau ynghau heddiw gydag ysbytai hefyd yn gohirio eu gwasanaethau a’u llawdriniaethau.
Adfer
Mae Llywodraeth Prydain wedi’u beirniadu, wedi iddyn nhw wario miliynau mewn amddiffynfeydd atal llifogydd yn yr ardal yn dilyn llifogydd difrifol yn 2005. Ond, mae Cumbria wedi profi’r dilyw unwaith eto.
Fe fu’r Prif Weinidog, David Cameron, yn cadeirio cyfarfod brys Cobra i drafod y llifogydd bore ma ac fe gyhoeddodd Downing Street y bydd yn ymweld a’r ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio.
Dywedodd David Cameron ar Twitter: “Mae meddyliau’r wlad gyda’r bobl yn Cumbria a’r gogledd orllewin sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd. Mae’r Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i’w helpu.”
Mae Sefydliad Cymunedol Cumbria wedi cychwyn apêl i godi £1 miliwn i helpu unigolion a theuluoedd sydd wedi’u heffeithio’n ddifrifol.
Maen nhw eisoes wedi codi £100,000, a’u bwriad yw dosbarthu grantiau i helpu gyda chostau clirio, adnewyddu a chyflenwi dillad, bwyd, diod, gwres a gofal plant i’r bobol gafodd eu heffeithio.