Fe fydd dyn yn mynd gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o geisio llofruddio ar ôl cael ei arestio yn dilyn ymosodiad gyda chyllell yng ngorsaf danddaearol Leytonstone, Llundain.

Yn ol Scotland Yard, fe fydd Muhaydin Mire, 29, o Heol Sansom, Leytonstone yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster ar gyhuddiad o geisio llofruddio dyn 56 oed ddydd Sadwrn.

Fe ymosodwyd ar ddau ddyn yn yr orsaf gan ddyn gyda chyllell. Honnir ei fod wedi datgan “Ar gyfer Syria mae hyn.”

Mae’r heddlu wedi cynyddu nifer y swyddogion sydd ar batrôl mewn gorsafoedd “er mwyn adnabod ac atal brawychiaeth” yn dilyn y digwyddiad yn nwyrain Llundain.

Cafodd y dyn 56 oed anafiadau “difrifol” yn yr ymosodiad a chafodd un person arall eu hanafu.

Defnyddiodd yr heddlu wn Taser i dawelu’r dyn a chafodd ei arestio ychydig cyn 7.15yh nos Sadwrn.

Mae’r heddlu wedi apelio ar y cyhoedd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ôl yr arfer.