Mae bachgen saith oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Nhonysguboriau ger Pontyclun fore Sul.

Cafodd y bachgen a’i dad 43 oed eu cludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, lle bu farw’r tad yn gynharach.

Roedden nhw’n croesi’r ffordd yn yr oriau man pan gawson nhw eu taro gan gar Alfa Romeo.

Digwyddodd y gwrthdrawiad wrth fynedfa siop Arthur Llewellyn Jenkins.

Cafodd gyrrwr 22 oed y car ei arestio ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae Heddlu’r De wedi apelio am wybodaeth.