Tornado
Mae 32 o aelodau o Daesh wedi cael eu lladd yn dilyn cyrchoedd bomio yn ninas Raqqa yn Syria.

Daeth cadarnhad bod 15 o ffrwydradau yn y ddinas ddydd Sul.

Does dim cadarnhad pa wlad oedd wedi cyflawni’r cyrchoedd, ond mae lle i gredu mai milwyr o’r Unol Daleithiau oedden nhw.

Does dim cadarnhad ychwaith a gafodd unrhyw bobol gyffredin eu lladd yn yr ymosodiadau.