Mae Plaid Cymru wedi croesawu “cyfaddefiad” gan lefarydd Gwaith a Phensiynau’r Blaid Lafur, Owen Smith fod aelodau seneddol y blaid yn “bendant yn anghywir” i beidio gwrthwynebu toriadau i les a chredydau treth gwerth £12 biliwn.
Gwnaeth Smith y cyfaddefiad yn ystod rhaglen Sunday Politics y BBC ddydd Sul.
Cyfaddefodd Smith fod newidiadau a thoriadau “wrth galon” y ddeddfwriaeth.
Dywedodd wrth y rhaglen ei fod wedi dadlau “yn erbyn ymatal rhag pleidleisio”, ond mae cofnodion yn dangos bod Smith wedi ymatal yn y pen draw.
‘Ciaidd’
Wrth ymateb i sylwadau Owen Smith, dywedodd llefarydd Trysorlys Plaid Cymru, Jonathan Edwards y gallai’r Blaid Lafur fod wedi osgoi misoedd o ansicrwydd pe baen nhw wedi rhoi mwy o bwysau ar y Ceidwadwyr.
Fe alwodd hefyd ar Aelodau Seneddol Llafur i roi ystyriaeth i sut maen nhw’n pleidleisio ac i ystyried hefyd a ddylen nhw fod wedi ymatal rhag pleidleisio ar faterion a fyddai wedi rhoi mwy o rym i’r Cynulliad.
Mewn datganiad, dywedodd Jonathan Edwards: “Mae Plaid Cymru’n croesawu’n gynnes y cyfaddefiad gan lefarydd Gwaith a Phensiynau Llafur eu bod nhw’n anghywir pan eisteddon nhw ar eu dwylo yn ystod bil lles y Torïaid.
“Mae’n drueni, serch hynny, clywed Owen Smith yn cydnabod yn gyhoeddus ei fod e a’i gydweithwyr yn y blaid yn gwybod yn iawn fod toriadau i gredydau treth wrth galon y toriadau lles ciaidd gwerth £12 biliwn yr oedd y Blaid Geidwadol am eu cyflwyno.”
Ychwanegodd na fyddai “degau o filoedd o deuluoedd Cymreig” wedi bod yn gofidio pe bai Llafur “wedi sefyll gyda Phlaid Cymru wrth wrthwynebu’r toriadau hyn o’r cychwyn cyntaf”.