Nigel Farage. Llun:PA
Mae’r Arweinydd Nigel Farage wedi cyhoeddi bod Ukip yn bwriadu cwyno’n ffurfiol am “gamddefnydd” o’r bleidlais bost yn isetholiad Oldham West a Royton ddoe.

Tra’r oedd rhai sylwebwyr wedi darogan y gallai Ukip gipio’r sedd oddi ar Lafur, nid felly y buodd hi.

Etholwyd Jim McMahon gyda mwyafrif o 10,000 ac mae’r canlyniad yn cael ei ddehongli fel pluen yn het Arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn.

Er nad oedd yn bwrw amheuaeth ar fuddugoliaeth Llafur, bu’n tynnu sylw at honiadau fod pobol yn cyrraedd bythau pleidleisio yn cario llwythi o bleidleisiau post.

Yn ôl Arweinydd Ukip mae’r canlyniad hefyd yn codi cwestiynau am etholiadau mewn ardaloedd lle mae cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn amlwg.

Dywedodd Nigel Farage bod pobol o leiafrifoedd ethnig yn arwyddo i bleidleisio drwy’r post heb fod yn medru siarad na deall Saesneg.

Grawnwin surion

Yn ôl Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur roedd sylwadau Nigel Farage yn ymdebygu i “rawnwin surion”.

“Os oes ganddo dystiolaeth, ddylai fod wedi dweud wrth yr heddlu yn unionsyth,” meddai Tom Watson.