Syed Rizwan Faarook (Llun trwydded yrru)
Roedd y dyn a laddodd 14 o bobol mewn canolfan yng Nghaliffornia wedi bod yn cysylltu gydag eithafwyr jihadaidd ar wefannau cymdeithasol, yn ôl gwasanaethau cudd yr Unol Daleithiau.

Ond dyw hi ddim yn glir o hyd ai dial personol neu weithred frawychol oedd y tu cefn i’r ymosodiad yn San Bernadino.

Bellach, mae’r heddlu wedi cadarnhau y gallai llawer rhagor fod wedi eu lladd gan yr arolygydd tai bwyta Syed Rizwan Farook, 28 oed, a’i wraig, Tashfeen Malik, 27.

Yn ogystal â thair bom bibell a’r bwledi a ddefnyddiwyd yn yr ymosodiad, roedd gan y ddau 12 bob bibell arall a 3,000 o fwledi yn eu cartref.

Lladd

Fe gafodd y ddau ymosodwr eu lladd mewn brwydr saethu gyda’r heddlu.

Mae’n ymddangos bod Syed Farook wedi bod mewn parti gyda’i gydweithwyr, cyn gadael a dod yn ôl i mewn i’w saethu.