Cairo fin nos (Llun Parth Cyhoeddus)
Mae o leia’ 12 o bobol wedi’u lladd a phump wedi eu hanafu mewn ymosodiad ar glwb nos ym mhrifddinas yr Aifft.
Does dim gwybodaeth eto a oedd yr ymosodiad yn un terfysgol, wrth i heddlu’r wlad ddechrau ymchwilio.
Mae ffigwr y marwolaethau’n 18 yn ôl asiantaeth newyddion Al Jazeera yn y Dwyrain Canol.
Bomiau tân
Yn ôl adroddiadau, fe gafodd bomiau tân mewn potel eu taflu i mewn i glwb nosy n Cairo gan dri dyn ar gefn motobeic.
Fe gafodd awyren Rwsiaidd ei dinistrio gan fom y mis diwetha’ wrth iddi deithio o faes awyr yn yr Aifft ac mae’r jihadwyr IS wedi hawlio cyfrifoldeb am hynny.