Simon Brooks (Llun Golwg360)
Mae’r ymgyrchydd Iaith Simon Brooks yn cyhuddo Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o hyrwyddo math o ddwyieithrwydd sy’n “llofruddio’r Gymraeg”.

Roedd adroddiad yr Ombwdsmon yn beirniadu Cyngor Cymuned Cynwyd am gyhoeddi dogfennau yn Gymraeg yn unig yn “camwahaniaethu” yn erbyn y Gymraeg, meddai.

Roedd yn honni ei fod yn benderfyniad “dieflig”.

‘Hawl i weithredu yn Gymraeg’

Os nad oedd pob cyngor cymuned yng Nghymru’n gorfod gweithredu’n ddwyieithog, fe ddylai Cyngor Cymuned Cynwyd gael yr hawl i weithredu’n uniaith Gymraeg.

“Camwahaniaethu ydi hyn gan mai’r unig gynghorau sy’n cael eu gorfodi ydi cynghorau sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Simon Brooks.

“Beth mae hyn yn ei brofi, ydi ein bod yn rhoi hawl absoliwt i siaradwyr Saesneg ar draul siaradwyr Cymraeg.”

Roedd y ffaith fod y gŵyn wedi dod gan berson o’r tu allan i ardal y cyngor yn awgrymu bod hawl gan unrhyw siaradwr Saesneg i fynnu gwasanaeth Saesneg gan bob corff ymhobman, meddai.

‘Angen cysondeb’

Fe gafodd Simon Brooks gadarnhad gan Gomisiynydd y Gymraeg nad oedd cynghorau cymuned wedi eu cynnwys eto o dan y safonau iaith newydd.

“Mae’n rhaid cael cysondeb diriogaethol yng Nghymru sy’n galluogi i bobol gael yr un hawliau mewn gwlad honedig ddwyieithog,” meddai.

“Os nad ydi pob cyngor cymuned trwy Gymru yn gorfod bod yn ddwyieithog, mi ddylsai cynghorau cymuned Cymraeg gael rhwydd hynt i barhau yn Gymraeg heb gael eu bygwth fel hyn.

“Mae’r cynsail mae’r Ombwdsmon wedi ei osod sy’n gosod cyfrifoldebau ar gynghorau Cymraeg yn unig yn un y bydd yn rhaid ei wyrdroi.”