Alun Michael (Llun Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru’n lansio cynllun gweithredu newydd i geisio rhwystro’r arfer o gadw pobol gydag afiechyd meddwl mewn celloedd.
Fe fydd hynny’n cynnwys creu ‘Seintwar Argyfwng’ yng Nghaerdydd, canolfan alwadau a mwy o gydweithio rhwng y gwasanaethau brys a gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu app arbennig y bydd plismyn yn gallu’i ddefnyddio wrth eu gwaith.
Mae’r heddlu’n cydweithio gydag elusen Gofal a Hafal a’r bwrdd iechyd yn ardal Caerdydd, yn ogystal â gyda’r gwasanaethau tân ac ambiwlans.
Meddai Alun Michael
“Mae llawer gormod o bobol gyda phroblemau iechyd meddwl yn cyrraedd celloedd yr heddlu,” meddai Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael, sydd wedi arwain y gwaith.
“Mae staff y ddalfa’n aml yn treulio oriau lawr yn chwilio am y gwasanaeth priodol i rywun sydd yn eu gofal ac mae cael lle diogel addas yn broblem fawr, yn enwedig tros nos ac ar benwythnosau.”
Rhoi’r gorau i’r arfer
Yn ôl Dirprwy Brif Gwnstabl De Cymru, John Stratford, mae angen rhoi’r gorau’n llwyr i gadw pobol gydag afiechyd meddwl mewn celloedd.
Nid dyna’r lle, meddai, i bobol sy’n wael ac heb fod dan amheuaeth o gyflawni trosedd.