Llun o wefan Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru
Mae glaw trwm ledled Cymru wedi creu trafferthion mawr wrth i’r Gwasanaethau Brys gael noson brysur yn achub pobol rhag ceir a phwmpio dŵr o dai.

Cafodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru 20 o alwadau rhwng 6 a 9 y nos neithiwr yng Ngheredigion.

Fe fu’n rhaid i ddiffoddwyr achub person o gar ar Bont Cenarth, ger Castellnewydd Emlyn, a chafodd pedwar eu hachub o gar ar Heol Gwbert yn Aberteifi.

Pentrefi’n cael eu heffeithio

Roedd rhaid pwmpio dŵr o sawl cartref lle’r oedd llifogydd hefyd, gan gynnwys tai yn ardal Wenallt, Aberystwyth, Llangwyryfon, Lledrod, Llanrhystud, Llanerchaeron, Blaenplwyf, Synod Inn, Cei Newydd a Thregaron.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd yn rhaid i swyddogion tân dynnu dynes o ddŵr oedd wedi gorlifo ym Mhontsarn.

Roedd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru hefyd wedi dweud eu bod nhw wedi cael nifer o alwadau yn ymwneud â’r llifogydd ond nad oedd y rhain yn ddifrifol.

Dywedodd y Gwasanaethau Tân nad oedd neb wedi’u hanafu yn sgil y llifogydd.

Pump rhybudd coch arall

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod pum rhybudd coch o lifogydd a hynny yn Abergwili, ger Caerfyrddin, Afon Wysg yn Aberhonddu a Threcelyn ger Caerffili, Dyffryn Conwy a Dyffryn Dyfrdwy, ger Llangollen.

Mae disgwyl i ddydd Gwener fod yn sych ar y cyfan, er y bydd hi’n wyntog, gyda gwyntoedd yn rhai ardaloedd yng Ngogledd Cymru yn cyrraedd 70mya.

Er hyn, bydd rhagor o law yn cyrraedd y wlad erbyn y penwythnos ac mae disgwyl i hwn fod yn law trwm.