Trydaneiddio (Helibus CCA 3.0)
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am sicrwydd y bydd y rheilffordd i Abertawe yn cael ei thrydaneiddio cyn diwedd y degawd.

Yn ôl Gweinidog Economi Cymru, Edwina Hart, roedd hi wedi cael cyfarfod gydag Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth Prydain ddoe ac wedi mynnu eu bod nhw’n cadw at eu haddewidion.

Fe fyddai hynny’n golygu bod rheilffordd de Cymru’n cael ei thrydaneiddio cyn belled ag Abertawe erbyn 2019.

Y Gogledd hefyd

Mae pryder wedi bod y gallai’r amserlen arafu oherwydd toriadau gwario ond, yn ôl Edwina Hart, roedd y cyfarfod gyda Patrick McLoughlin wedi bod yn “gynhyrchiol”.

Roedd hi hefyd, meddai, wedi galw am drydaneiddio lein gogledd Cymru gan ddweud bod hynny’n bwysig iawn i’r economi.