Mae hofrennydd o Gaernarfon wedi cael ei galw i ymdrechion i geisio dod o hyd i awyren fechan sydd wedi diflannu oddi ar y radar ger Blackpool.

Cafodd gwylwyr y glannau eu galw am 9.25yb dydd Iau ar ôl adroddiad bod yr awyren wedi mynd ar goll wrth iddi agosáu at faes awyr.

Mae’r chwilio’n digwydd oddeutu tair milltir oddi ar arfordir gogledd orllewin Lloegr, gyda phryder bod yr awyren wedi cwympo i’r dŵr.

Bellach mae gwylwyr y glannau Lytham St Anne, tri chwch RNLI a’r hofrennydd achub o Gaernarfon yn chwilio yn yr ardal.

“Mae adroddiadau ei bod hi’n anodd gweld yn yr ardal ac felly mae posibilrwydd cryf bod yr awyren wedi cwympo i’r môr ar ôl i’r cysylltiad gael ei cholli ac wedi iddi ddiflannu oddi ar y radar,” meddai rheolwr Gwylwyr y Glannau Prydain Matthew Mace.