Awyrennau Tornado GR4 yn Akrotiri, Cyprus
Mae nifer yr awyrennau o Brydain sy’n cynnal ymosodiadau ar safleoedd y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria yn cael eu dyblu ar ôl i’r cyrchoedd awyr ddechrau yn gynnar bore ma.
O fewn awr o’r bleidlais yn y Senedd neithiwr yn cefnogi gweithredu milwrol, roedd yr awyren Tornado GR4 ar ei ffordd i dargedu un o’r meysydd olew sy’n cael eu rheoli gan IS yn nwyrain Syria.
A heddiw roedd dwy awyren Tornado a chwe Typhoon wedi gadael eu safleoedd yn y DU ar eu ffordd i safle’r Awyrlu yn Akrotiri yng Nghyprus.
Mewn datganiad, dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod yr awyrennau, gan gynnwys awyren di-beilot, wedi ymosod ar chwe tharged.
Y bwriad meddai’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon wrth BBC Radio 4 yw ymosod ar dargedau fel y meysydd olew sy’n cael eu defnyddio i ariannu IS.
Dywedodd Michael Fallon bod yr ymosodiadau wedi bod yn “ergyd sylweddol” i’r refeniw olew mae IS yn dibynnu arno.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai’r mandad clir neithiwr yn golygu bod pobl yn “cefnogi ymdrechion y Llu Awyr i gadw’n gwlad yn ddiogel.”