6.6 allan o 10 oedd cyfartaledd bodlonrwydd pobol â safon addysg yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canfyddiadau ei harolwg cenedlaethol heddiw sy’n mesur lles pobol Cymru.
Roedd yr arolwg yn mesur pob math o agweddau ar fywyd bob dydd pobol gan gynnwys bodlonrwydd y cyhoedd ag addysg, y gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol.
Mewn sampl o 14,500 o bobol, roedd hefyd yn mesur faint o’r genedl sy’n defnyddio’r we, faint sy’n berchen ar anifail anwes a faint oedd wedi bod mewn digwyddiad celfyddydol dros y 12 mis diwethaf.
Yn ôl y llywodraeth, mae’n defnyddio canlyniadau’r arolwg, sydd wedi cael ei gynnal unwaith y flwyddyn ers 2012 i helpu i wneud Cymru’n lle gwell i fyw.
Roedd gradd bodlonrwydd pobol â gwaith cyffredinol Llywodraeth Cymru yn 5.6 allan o 10, sydd heb newid yn ystadegol ers yr arolygon a gynhaliwyd yn 2012-13 a 2013-14.
Golwg ar addysg
6.6 allan o 10 oedd cyfartaledd bodlonrwydd pobol â safon addysg yng Nghymru.
Pobol yng Nghonwy oedd uchaf eu clod, gyda safon yr addysg yno yn sgorio 7.2 a’r sgôr isaf oedd ym Mhowys gyda 6.1.
Mae’r ystadegau’n dangos bod perfformiad disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim yn gwella’n gyson ymhob cyfnod addysg a bod cyrhaeddiad rhwng dysgwyr difreintiedig a’u cyd-ddisgyblion wedi lleihau yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4.
Er hyn, mae’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis wedi dweud bod y bwlch yn dal i fod yn rhy lydan a bod angen gwneud mwy o waith i chwalu’r cysylltiad rhwng amddifadedd a lefelau cyrhaeddiad is.
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn cyflwyno Grant Amddifadedd Disgyblion – sef rhaglen sy’n neilltuo cyllid ychwanegol i ysgolion er budd disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim.
Canlyniadau eraill
6.3 allan o 10 oedd sgôr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gyda 79% yn dweud eu bod yn fodlon a’r amseroedd ambiwlans. Roedd 91% yn fodlon gyda gofal eu meddyg teulu.
81% o bobol Cymru sy’n defnyddio’r rhyngrwyd ac o’r rhain, roedd 60% hefyd yn defnyddio ffôn clyfar.
Roedd 53% ar gyfartaledd wedi dweud bod eu cyngor lleol yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel. Eto, Cyngor Conwy oedd wedi cael y clod uchaf – 65%, a’r bobol oedd yn lleiaf bodlon â’u cyngor oedd trigolion Blaenau Gwent – 42%.
Roedd 83% o bobol Cymru yn fodlon â’u bywydau yn gyffredinol.