David Cameron yn cyflwyno'i ddadl yn Nhy'r Cyffredin neithiwr
Mae Prydain bellach wedi gollwng y bomiau cyntaf ar dargedau IS yn Syria ar ôl i Aelodau Seneddol yn San Steffan bleidleisio o blaid gweithredu’n filwrol neithiwr.
Fe bleidleisiodd 397 AS o blaid y cynnig, gyda 223 yn gwrthwynebu, gan roi mwyafrif o 174 i’r Llywodraeth.
Roedd 66 o aelodau Llafur wedi cefnogi’r cynnig.
Ond roedd mwyafrif o ASau o Gymru a’r Alban yn gwrthwynebu’r bomio, gyda 24 o ASau Cymru yn pleidleisio yn erbyn cynnig y llywodraeth a 15 yn ei gefnogi.
Ann Clwyd yn absennol
Wrth ymateb i gwestiynau pam nad oedd Ann Clwyd wedi pleidleisio neithiwr, dywedodd AS Llafur Cwm Cynon mewn datganiad ei bod wedi bod yn dioddef o niwmonia.
“Nid oeddwn wedi gallu cymryd rhan yn y ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr na phleidleisio oherwydd rwyf ar hyn o bryd yn gwella ar ôl dioddef o bwl difrifol o niwmonia.
“Hoffwn ddiolch i staff Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr am y gofal rhagorol yr wyf wedi’i gael.
“Bues i’n dilyn y ddadl ac rwy’n cefnogi’r hyn a ddywedodd Hilary Benn wrth iddo grynhoi’r ddadl.”
Felly sut wnaeth eich Aelod Seneddol chi bleidleisio?
ASau Cymru a gefnogodd y cynnig i fomio
Guto Bebb (Ceidwadwyr, Aberconwy)
Chris Bryant (Llafur, Rhondda)
Alun Cairns (Ceidwadwyr, Bro Morgannwg)
Stephen Crabb (Ceidwadwyr, Preseli Penfro)
Wayne David (Llafur, Caerffili)
Byron Davies (Ceidwadwyr, Gwyr)
Chris Davies (Ceidwadwyr, Brycheiniog a Maesyfed)
David Davies (Ceidwadwyr, Sir Fynwy)
Glyn Davies (Ceidwadwyr, Sir Drefaldwyn)
James Davies (Ceidwadwyr, Dyffryn Clwyd)
Stephen Doughty (Llafur, De Caerdydd a Phenarth)
Simon Hart (Ceidwadwyr, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro)
David Jones (Ceidwadwyr, Gorllewin Clwyd)
Susan Elan Jones (Llafur, De Clwyd)
Craig Williams (Ceidwadwyr, Gogledd Caerdydd)
ASau Cymru a wrthwynebodd y cynnig i fomio
Kevin Brennan (Llafur, Gorllewin Caerdydd)
Geraint Davies (Llafur, Gorllewin Abertawe)
Jonathan Edwards (Plaid Cymru, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Chris Evans (Llafur, Islwyn)
Paul Flynn (Llafur, Gorllewin Casnewydd)
Nia Griffith (Llafur, Llanelli)
David Hanson (Llafur, Delyn)
Carolyn Harris (Llafur, Dwyrain Abertawe)
Huw Irranca-Davies (Llafur, Ogwr)
Gerald Jones (Llafur, Merthyr Tudful a Rhymni)
Stephen Kinnock (Llafur, Aberafan)
Ian Lucas (Llafur, Wrecsam)
Madeleine Moon (Llafur, Pen-y-bont)
Jessica Morden (Llafur, Dwyrain Casnewydd)
Albert Owen (Llafur, Ynys Môn)
Christina Rees (Llafur, Castell-nedd)
Liz Saville Roberts (Plaid Cymru, Dwyfor Meirionnydd)
Nick Smith (Llafur, Blaenau Gwent)
Owen Smith (Llafur, Pontypridd)
Jo Stevens (Llafur, Canol Caerdydd)
Mark Tami (Llafur, Alun a Glannau Dyfrdwy)
Nick Thomas-Symonds (Llafur, Torfaen)
Hywel Williams (Plaid Cymru, Arfon)
Mark Williams (Democratiaid Rhyddfrydol, Ceredigion)
Absennol o’r bleidlais
Ann Clwyd (Llafur, Cwm Cynon)