Chris Coleman yn dathlu
Mae Llywydd y Cynulliad a swyddogion Llywodraeth Cymru wedi trafod cynnal dathliad i dîm pêl-droed Cymru cyn iddyn nhw adael am Ewro 2016 yn Ffrainc haf nesaf.
Fe sicrhaodd tîm Chris Coleman eu lle yn y gystadleuaeth ym mis Hydref, a hon fydd y tro cyntaf i’r tîm gymryd rhan mewn rowndiau terfynol twrnament rhyngwladol ers 58 mlynedd.
Fe gadarnhaodd Rosemary Butler bod y Cynulliad a Llywodraeth Cymru nawr yn gobeithio cynnal derbyniad a dathliad ar gyfer y tîm cyn iddyn nhw ymadael am yr Ewros.
Cafodd y cyhoeddiad ei chroesawu gan AC Plaid Cymru Bethan Jenkins, sydd hefyd wedi galw ar y llywodraeth i sefydlu parthau cefnogwyr ar hyd a lled Cymru er mwyn i bobl allu gwylio’r gemau.
Wrthi’n trafod
Bydd Ewro 2016 yn cael ei chynnal rhwng 10 Mehefin a 10 Gorffennaf y flwyddyn nesaf, a’r penwythnos nesaf fe fydd Cymru’n darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr grŵp nhw.
Mewn ymateb i ymholiad gan Bethan Jenkins am dderbyniad i’r tîm, dywedodd Rosemary Butler bod trafodaethau bellach wedi cael eu cynnal i nodi eu llwyddiant diweddar.
“Rydw i hefyd yn hynod o falch o lwyddiant y tîm pêl-droed rhyngwladol wrth gyrraedd twrnament bêl-droed fawr am y tro cyntaf mewn bron i 60 mlynedd ac fe fuaswn i’n gwerthfawrogi’r cyfle i’w gwahodd nhw i’r Senedd,” meddai Llywydd y Cynulliad mewn ymateb ysgrifenedig i’r Aelod Cynulliad.
“Mae fy swyddogion yn cynnal trafodaethau cychwynnol â’u swyddogion cyfatebol o fewn Llywodraeth Cymru i gynnal derbyniad i Chris Coleman a’i dîm cyn iddyn nhw adael am Ffrainc, fel y nodoch chi yn eich llythyr.”
Cynnwys y cefnogwyr
Mae Bethan Jenkins eisoes wedi galw am sefydlu parthau cefnogwyr cyhoeddus mewn trefi ar hyd a lled Cymru er mwyn i bobl allu profi’r awyrgylch o wylio’r tîm wth iddyn nhw gystadlu yn Ffrainc haf nesaf.
“Rydw i’n croesawu’r camau sydd wedi cael eu cymryd i nodi llwyddiant hanesyddol tîm Cymru,” meddai’r Aelod Cynulliad dros Orllewin De Cymru wrth ymateb i sylwadau Rosemary Butler.
“Mae’n hanfodol bod ein cefnogwyr gwych, llawer ohonyn nhw’n bwriadu teithio i Ffrainc y flwyddyn nesaf, yn cael y cyfle i ffarwelio â’u tîm a rhoi dymuniadau gorau’r genedl gyfan iddyn nhw.
“Dylai unrhyw ddigwyddiad ym Mae Caerdydd gynnwys y cefnogwyr ac nid jyst gwleidyddion mewn siwtiau yn cyfarfod y tîm.”