Emyr Huws yn sgorio yng ngêm diweddar Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd (llun: Nigel French/PA)
Mae Cymru wedi llithro dau safle i 17eg yn rhestr detholion diweddaraf FIFA, ar ôl colli eu gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd ym mis Tachwedd.
Yn gynharach eleni roedd tîm Chris Coleman wedi cyrraedd yr wythfed safle, a hynny wrth iddyn nhw sicrhau lle yn Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Gwlad Belg sydd wedi aros ar frig y detholion diweddaraf, gyda’r Ariannin yn codi i’r ail safle, Sbaen yn codi i drydydd, a’r Almaen yn llithro i bedwerydd.
Arhosodd Lloegr yn nawfed, mae Gogledd Iwerddon wedi cwympo un safle i 30ain, mae Gweriniaeth Iwerddon wedi codi 11 safle i 31ain, ac mae’r Alban wyth safle’n is nag oedden nhw yn 52fed.