Gwesty Baur au Lac yn Zurich, Y Swistir
Mae dau o uwch swyddogion Fifa wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lygredd, yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn y Swistir.

Roedd yr awdurdodau yn y wlad wedi arestio’r  ddau is-lywydd Juan Angel Napout ac Alfredo Hawit mewn cyrch yng ngwesty Baur au Lac yn Zurich fel rhan o’r ymchwiliad i honiadau o lygredd a thwyll yn y sefydliad.

Mae’r ddau wedi’u harestio ar amheuaeth o dderbyn llwgrwobrwyon gwerth “miliynau o ddoleri.”

Mae Juan Angel Napout ac Alfredo Hawit yn cael eu cadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddyn nhw gael eu hestraddodi i’r Unol Daleithiau lle mae’r ymchwiliad i honiadau yn erbyn uwch-swyddogion a chyn-uwch swyddogion yn cael ei gynnal. Mae ymchwiliad hefyd yn cael ei gynnal gan Swyddfa’r Twrne Cyffredinol yn y Swistir.

Roedd disgwyl i bwyllgor gweithredol Fifa gynnal cyfarfodydd yn ddiweddarach i drafod diwygiadau mewn ymateb i’r honiadau.

“Mae Fifa yn ymwybodol o’r camau gweithredu a wnaed gan Adran Gyfiawnder America heddiw. Bydd Fifa yn parhau i gydweithio’n llawn,” meddai’r sefydliad mewn datganiad.