Yr Almaen yn dathlu ennill Cwpan y Byd yn 2014 (llun: PA)
Fe fydd FIFA’n ystyried cynigion i ehangu Cwpan y Byd o 32 i 40 tîm o 2026 ymlaen mewn cyfarfod arbennig heddiw.
Mae’r corff sydd yn gyfrifol am bêl-droed rhyngwladol yn cyfarfod dydd Iau yn Zurich i drafod diwygio pellach, a hynny wrth i ddau uwch swyddog arall o’r mudiad gael eu harestio heddiw ar amheuaeth o lygredd.
Fe allai’r newid gael ei chymeradwyo gan bwyllgor gweithredu FIFA heb gael caniatâd y 209 o wledydd sydd yn rhan o’r sefydliad.
Ond dyw hi ddim yn glir eto sawl lle ychwanegol fyddai timau Ewrop yn ei dderbyn, ac felly os fyddai’r newid yn debygol o gynyddu siawns Cymru o gyrraedd y gystadleuaeth.
Cyfandiroedd eraill
Byddai ehangu Cwpan y Byd i 40 tîm mwy na thebyg yn golygu bod wyth grŵp o bum tîm yn y gystadleuaeth, yn hytrach na’r wyth grŵp o bedwar sydd ar hyn y bryd.
Fe allai hynny olygu hyd at 32 gêm ychwanegol yn cael eu chwarae, gan ymestyn y twrnament o ryw wythnos.
Ond mae’n debygol y byddai’r rhan fwyaf o’r wyth lle ychwanegol yn mynd i gyfandiroedd eraill heblaw am Ewrop, ac felly ddim yn cynyddu siawns Cymru o gyrraedd rhyw lawer.
Ar hyn o bryd mae Ewrop yn cael 13 tîm ym mhob cystadleuaeth tra bod Affrica’n cael pump, De America ac Asia yn cael 4.5 lle yr un, Gogledd America a’r Caribî yn cael 3.5, ac Oceania yn cael 0.5, sefyllfa sydd yn cael ei gweld yn annheg gan gyfandiroedd eraill.