Harry Wilson
Mae’r asgellwr ifanc Harry Wilson wedi cael ei alw nôl gan Lerpwl yn dilyn ei gyfnod ar fenthyg gyda Crewe.

Roedd disgwyl i’r ymosodwr 18 oed aros gyda’r clwb o Gynghrair Un tan fis Ionawr, ond dydi o ddim wedi bod yn chwarae’n rheolaidd ers iddo symud i’r clwb.

Wilson oedd y chwaraewr ieuengaf erioed i gynrychioli Cymru ar ôl dod ymlaen fel eilydd mewn gêm yn erbyn Gwlad Belg yn 2013 pan oedd  yn 16 oed.

Ers hynny mae wedi sefydlu’i hun yn nhîm dan-21 Lerpwl, a’i gyfnod ar fenthyg yn Crewe oedd ei gyfle cyntaf i chwarae pêl-droed proffesiynol ar lefel cystadleuol.

‘Heb wneud digon’

Ers symud i Crewe ym mis Awst mae Wilson wedi chwarae saith gêm, gan gynnwys dechrau tair gwaith, ac fe awgrymodd yn gynharach yn y mis ei fod yn gobeithio ceisio cipio lle yng ngharfan Cymru ar gyfer Ewro 2016 y flwyddyn nesaf.

Ond am nad yw wedi bod yn chwarae mor rheolaidd ag y byddai wedi hoffi mae’r ddau glwb a Wilson ei hun wedi cytuno i ddod a’r cyfnod benthyg i ben.

“Pan mae o wedi cael y cyfle dydi o ddim cweit wedi gwneud digon i aros yn y tîm,” esboniodd rheolwr Crewe Steve Davis.

“Ond fel unrhyw chwaraewr ifanc yn dod i mewn i dîm mae’n anodd ac mae’n gallu cymryd amser i ffeindio’ch traed a chadw’ch lle.

“Mae o’n chwaraewr cyffrous, fe ddangosodd o fflachiadau o’i ddawn ac fe gaiff o’i gyfle felly mae o fyny iddo fo i’w cymryd nhw.”