Dim ond 127 o’r 300 fisa i yrwyr tanceri ddod i’r Deyrnas Unedig ar fyrder sydd wedi cael eu cymeradwyo hyd yma, yn ôl y Prif Weinidog Boris Johnson.
Daw hyn wrth iddo ddadlau bod problemau’r gadwyn gyflenwi yn cael eu hachosi “yn bennaf oherwydd cryfder yr adferiad economaidd”.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth BBC Breakfast: “Yr hyn yr ydym wedi’i ddweud wrth y diwydiant cludo nwyddau ar y ffyrdd oedd: ‘Iawn, rhowch enwau’r gyrwyr yr ydych am eu cyflwyno a byddwn yn rhoi trefn ar y fisas, mae gennych 5,000 fisa arall.’
“Dim ond 127 o enwau maen nhw wedi eu rhoi hyd yn hyn.
“Yr hyn mae hynny’n ei ddangos yw’r prinder byd-eang.
“Mae problem y gadwyn gyflenwi yn cael ei hachosi’n bennaf gan gryfder yr adferiad economaidd.
“Yr hyn y byddwch yn ei weld yw arbenigwyr gwych yn ein cadwyni archfarchnadoedd, yn ein diwydiant prosesu bwyd, yn mynd i’r afael ag ef, gan ddod o hyd i’r staff sydd eu hangen arnynt.
“Byddwn yn eu helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn.
“Ond mae’r prinder yn fyd-eang.”
Eglurodd yr Adran Drafnidiaeth yn ddiweddarach, o’r 127 fisa a gyhoeddwyd, fod 27 ar gyfer gyrwyr tanceri tanwydd a bod y 100 arall ar gyfer cludwyr bwyd.
‘Nadolig gwell na’r llynedd’
Mae Boris Johnson wedi mynnu y bydd y Nadolig eleni yn well na’r llynedd, er gwaethaf rhybuddion am broblemau yn y gadwyn gyflenwi.
Fodd bynnag, mae wedi gwrthod diystyru prinder yn yr economi ehangach yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Yn ogystal â diffyg o 100,000 o yrwyr HGV, mae busnesau megis cynhyrchwyr cig a manwerthwyr wedi rhybuddio am silffoedd gwag.
“Bydd y Nadolig eleni yn llawer gwell na’r llynedd,” meddai Boris Johnson wrth y BBC.
“Rwy’n credu bod gennym gadwyni cyflenwi dibynadwy iawn yn y wlad hon.”
“Nid yw’n gynnig deniadol”
Fodd bynnag, mae Cymdeithas Cludo Nwyddau’r Ffyrdd (RHA) yn anghytuno â sylwadau’r Prif Weinidog.
Dywedodd Rod McKenzie, rheolwr gyfarwyddwr polisi a materion cyhoeddus Cymdeithas Cludo Nwyddau’r Ffyrdd: “Nid oes cronfa ddata o yrwyr lorïau gydag enwau ynghlwm wrthynt y gall cwmnïau lorïau Prydain fanteisio arnynt a dweud: ‘Rydym am gymryd hwn, yr un hwnnw, hwnnw, neu hwnnw.’
“Nid yw’n gweithio felly, nid yw’n bodoli.
“Yr unig ffordd y mae’n gweithio yw bod y Llywodraeth yn hysbysebu bod fisas tymor byr ar gael, mae gweithwyr o Ewrop yn ystyried y peth, yn penderfynu a ydynt am ddod i weithio yma ai peidio, a gweithredu’n unol â hynny.
“Ac, yn amlwg, dim ond 127 sydd wedi gweithredu yn unol â hynny hyd yma.”
Ychwanegodd Rod McKenzie: “Pam fyddech chi’n rhoi’r gorau i swydd sy’n talu’n dda yn Ewrop, i ddod i yrru lori ym Mhrydain am gyfnod byr iawn pan fydd yn rhaid i chi drefnu rhywle i fyw am chwe mis a mynd drwy’r holl drafferth, er mwyn cael eich anfon i weithio ar Noswyl Nadolig, neu hyd yn oed yn hwyrach fel yr ydym nawr yn clywed?
“Nid yw’n gynnig deniadol.”
Pris petrol wedi codi 91c mewn wythnos
Daeth sylwadau’r Prif Weinidog wrth i brisiau petrol cyfartalog godi 0.91c y litr mewn wythnos o 135.19c yr wythnos diwethaf i 136.1c ddydd Mawrth (5 Hydref), a disel 1.7c o 137.9c i 139.2c, yn ôl ffigurau newydd y Llywodraeth.
Dyma’r lefel uchaf ar gyfer petrol er iddo gostio 136.9c ym mis Medi 2013.