Mae drysau wedi cael eu gosod mewn safleoedd ledled Cymru’r wythnos hon fel rhan o ymgyrch rhwydwaith Maethu Cymru.

Bwriad yr ymgyrch yw annog y cyhoedd i “agor eu drysau” er mwyn rhoi cartref i’r holl blant yng Nghymru sydd angen gofal a chymorth.

Ar ddiwedd Mawrth 2020, roedd ystadegau gan Lywodraeth Cymru’n dangos bod 84% o blant maeth wedi gallu aros gyda theulu yn eu hardal leol.

Mae Maethu Cymru yn anelu i gynyddu nifer y gofalwyr maeth sydd gan Awdurdodau Lleol ledled Cymru er mwyn sicrhau bod plant yn gallu aros mewn ardal sy’n gyfarwydd iddyn nhw.

Fe wnaethon nhw lansio ymgyrch ehangach yn ddiweddar, gyda’r nod cenedlaethol o gael effaith sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc yng Nghymru, ac mae dadorchuddio’r drysau yn rhan o hynny.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, am yr ymgyrch: “Rydw i’n annog pawb a all agor eu cartref i wneud hynny, er mwyn i’r plant sydd angen ein cymorth gael plentyndod hapusach a thyfu i fod yn bwy bynnag y maent yn dymuno’i fod.”

“Gwneud gwahaniaeth”

Mae Gwynfor a Barbara, cwpl o Ynys Môn, wedi sôn am eu profiadau nhw o ddod yn rhieni maeth, ar ôl i’w plant biolegol dyfu i fyny a gadael cartref.

Dywedon nhw eu bod nhw wedi cael cefnogaeth gan Gyngor yr Ynys wrth gymryd y cam.

“Mae maethu wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n bywydau ni a bywydau’r plant yr ydym ni wedi gofalu amdanynt a’u cefnogi,” medden nhw.

“Roeddem wedi trafod maethu ers tro gan ein bod ni’n teimlo y gallem ddarparu amgylchedd cadarnhaol y gallai plant ffynnu ynddo.

“Gan fod ein plant ni wedi gadael y nyth, roedd gennym le ac amser i ofalu am blentyn maeth a oedd angen ein cymorth.”

“Trysori’r profiadau”

“Mae’n rheswm ni dros faethu’n syml – y plant,” ychwanegodd Gwynfor a Barbara.

“Mae maethu’n rhoi cymaint o foddhad i ni ac rydym yn annog pawb sy’n ystyried dod yn ofalwyr maeth i fynd amdani, wnewch chi ddim difaru!

“Mae’n braf iawn gallu rhoi’r sylfaen y mae’r plant yn ei haeddu er mwyn eu galluogi i ddatblygu.

“Byddwn yn trysori’r profiadau cadarnhaol yr ydym ni wedi’i gael gyda’n plant maeth am byth a bydd y plant yn eu trysori hefyd.”