Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i “ganolbwyntio ar amddiffyn pobol rhag afiechyd” yn hytrach na “dechrau dadleuon gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig”.

Daw eu sylwadau wedi i ddata diweddaraf ddangos bod 58,287 o sgriniadau canser y fron wedi cael eu methu yng Nghymru oherwydd y pandemig.

Mae elusen Breast Cancer Now yn rhagweld bod 620 o fenywod yng Nghymru yn byw gyda chanser y fron ond eu bod heb gael diagnosis.

Er bod sgrinio wedi ailddechrau, mae’r elusen yn rhybuddio bod hynny ar lefel is na chyn y pandemig yn sgil mesurau rheolau heintiadau sy’n golygu nad yw hi’n bosib gweld cymaint o bobol yn ystod pob sesiwn.

Mae data diweddar yn awgrymu y bydd hi’n cymryd tair i bedair blynedd i wasanaethau sgrinio ddychwelyd i lefelau arferol yng Nghymru.

Ers i wasanaethau ailddechrau yn haf 2020, dros y Deyrnas Unedig, mae bron i filiwn o hanner o fenywod yn llai wedi cael eu sgrinio o gymharu â lefelau cyn y pandemig.

Dros y Deyrnas Unedig, mae’r elusen yn dweud y gall hyd at 12,000 o bobol fod yn byw gyda chanser y fron heb ei ddiagnosio ddiwedd Mai 2021, yn sgil yr effaith ar wasanaethau sgrinio a bod llai o fenywod yn cael eu cyfeirio at arbenigwyr gyda symptomau posib ers Mawrth 2020.

“Goblygiadau difrifol”

Gan ymateb i’r canfyddiadau, dywedodd Russell George AoS, Gweinidog Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig: “Wrth i ni ddechrau gadael y pandemig, rydyn ni’n dechrau gweld mwy a mwy o oblygiadau difrifol y cyfnodau clo ac mae’n amlwg nad yw sgriniadau canser y fron yn eithriad.

“Dw i’n falch o glywed bod sgriniadau wedi ailddechrau, hyd yn oed os yw hynny ar gapasiti llai yn sgil mesurau rheoli heintiadau, ond i rai menywod dros Gymru bydd yn rhy hwyr, yn anffodus.

“Mewn rhannau eraill o Brydain, rydyn ni’n gweld canolfannau diagnostig yn cael eu cyflwyno’n sydyn er mwyn helpu i ddiagnosio a mynd i’r afael â rhestrau aros sy’n peryglu bywydau, ond mae gweinidogion Llafur ym mae Caerdydd yn cysgu wrth y llyw.

“Dylai amddiffyn pobol Cymru rhag afiechydon dinistriol fel canser fod yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth Lafur, ond yn hytrach maen nhw’n canolbwyntio ar ddechrau dadleuon cyfansoddiadol disynnwyr gyda San Steffan.”

Galwadau

Wrth drafod canfyddiadau’r data diweddaraf, dyweda Breast Cancer Now bod gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gweithio’n ddiflino i weld cymaint o bobol â phosib mewn clinigau ac mewn sgriniadau, ond mae cynnydd mewn galw am wasanaethau diagnosis a delweddu’n bygwth llethu’r gweithlu.

Mae’r elusen yn galw ar y Llywodraethau, a’r Gwasanaeth Iechyd dros y Deyrnas Unedig, i egluro sut bydd y buddsoddiad ychwanegol sydd wedi’i addo’n cael ei ddefnyddio i sicrhau bod pob menyw sy’n byw â chanser y fron heb ddiagnosis yn cael eu hadnabod a’u trin yn sydyn.

Rhaid i Lywodraethau fuddsoddi mewn cynllun strategol hirdymor, wedi’i ariannu’n llawn, ar gyfer y gweithlu delweddu a diagnostig hefyd, meddai.

Byddai hynny’n sicrhau diagnosis a thriniaeth sydyn ar gyfer canser y fron nawr ac yn y dyfodol, meddai’r elusen.

“Buddsoddi ar frys”

“Flwyddyn yn ôl fe wnaethon ni adrodd gyda phryderon bod bron i filiwn o fenywod wedi methu sgriniad y fron, o bosib, yn sgil oedi mewn gwasanaethau yn ystod ton gyntaf y pandemig; yn anffodus, er gwaethaf staff dygn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae gwasanaethau sgrinio yn gweithredu ar gapasiti is yn golygu bod 1.5 miliwn o fenywod yn llai wedi cael eu sgrinio – cynnydd syfrdanol o 50% ers i wasanaethau ailddechrau,” meddai’r Farwnes Delyth Morgan, Prif Weithredwr Breast Cancer Now.

“Mae menywod â chanser y fron yn parhau i dalu’r pris yn sgil effaith y pandemig, a gallai’r gwaethaf olygu bod oedi mewn diagnosis yn arwain at rai menywod yn marw’n sgil yr afiechyd dinistriol hwn.

“Rhaid blaenoriaethu adnabod a thrin y rhai sydd a chanser y fron ac sydd heb gael diagnosis ar fyrder, a rhaid i Lywodraethau dros y Deyrnas Unedig sicrhau bod yna fuddsoddiad digonol i wneud hynny – does gan y menywod hyn ddim amser i aros.

“Bydd buddsoddi ar frys yn y gweithlu delweddu a diagnostig, lle mae prinder staff cronig, yn caniatáu i gynnydd sylweddol gael ei wneud i fynd i’r afael â’r ôl-groniad mewn sgrinio’r fron a helpu i sicrhau bod menywod gyda symptomau posib yn cael gweld arbenigwr yn sydyn, fel eu bod nhw’n cael diagnosis mor sydyn â phosib os oes ganddyn nhw ganser y fron – dim ond felly y bydd menywod yn derbyn y gofal gorau a chael y cyfle gorau i oroesi.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi cyhoeddi cynlluniau yn ddiweddar i fuddsoddi £25m mewn hyd at bedwar sganiwr PET-CT newydd ledled Cymru. Bydd y rhain yn helpu i roi diagnosis o gyflyrau gan gynnwys canser y fron, yn ogystal â rhoi triniaeth ar gyfer y cyflyrau hynny, yn gyflymach. Rydym hefyd wedi cyhoeddi buddsoddiad o £25m arall mewn offer diagnostig a fydd ar gael i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Bydd gwasanaethau canser yn cael hwb sylweddol, gyda buddsoddiad newydd mewn sganwyr CT, camerâu gama, ac ystafelloedd delweddu MRI a phelydr-x fflwrosgopi.

“Mae gofal canser wedi parhau drwy gydol y pandemig ac rydym wedi cyhoeddi ein dull o adfer gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys gofal canser, sydd wedi cael £240m o gyllid ychwanegol hyd yma eleni. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n galed i adfer y rhaglen sgrinio am ganser y fron.

“Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Iechyd yn ystod y misoedd nesaf i ddatblygu’r camau gweithredu penodol sy’n gysylltiedig â gwasanaethau canser. Rydym yn parhau i annog unrhyw un sydd â symptomau i gysylltu â’u meddyg teulu a dylai pobl fynd i’w hapwyntiadau sgrinio, diagnostig a thriniaeth.”