Mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio eu cyngor a chanllawiau ar gyfer plant lle mae aelod o’u haelwyd wedi profi’n bositif am COVID-19.

Maen nhw bellach yn argymell y dylai disgyblion sy’n byw yn yr un aelwyd  â rhywun sydd wedi profi’n bositif am Covid gymryd prawf llif unffordd bob dydd am saith niwrnod.

Gall disgyblion barhau i fynd i’r ysgol yn yr amser hynny, cyn belled â’u bod nhw’n cael profion negyddol. Mae’r profion llif unffordd yn ychwanegol i’r profion PCR mae disgwyl i rywun eu cymryd ar Ddiwrnod 2 a Diwrnod 8 ar ôl deall eu bod nhw’n gyswllt agos i rywun â Covid.

Bydd y newidiadau’n dod i rym yn ffurfiol ddydd Llun (11 Hydref), a’r bwriad yw rhoi sicrwydd pellach i ddisgyblion nad ydyn nhw’n heintus.

“Gwrando ar y pryderon”

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles: “Rwy’n benderfynol o wneud popeth y gallaf i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar addysg a gofal plant. Rwy’n cydnabod bod rhai ysgolion a rhieni wedi bod yn ansicr ac yn bryderus y gall disgyblion fynychu ysgol neu goleg os ydynt wedi dod i gysylltiad ag achos positif ar yr aelwyd cyhyd â’u bod yn asymptomatig. Rwyf wedi gwrando ar y pryderon hyn ac wedi ystyried pa sicrwydd ychwanegol y gellir ei roi ar yr un pryd â galluogi dysgwyr i barhau i fynychu’r ysgol.”

Mae gofyn i ddisgyblion dan 18 oed mewn ysgolion uwchradd a cholegau sy’n gwybod eu bod nhw’n gysylltiad ag achos positif ar yr un aelwyd ddechrau defnyddio’r profion llif unffordd am 7 niwrnod ar unwaith.

Mewn cynhadledd i’r wasg dywedodd Jeremy Miles, ei fod  yn bryderus am nifer y plant dan 5 oed sy’n derbyn profion PCR. Mae’r nifer bum gwaith yn fwy nag yr oedd ddechrau mis Awst, a dywedodd y gall y profion fod yn annifyr i blant, gall fod yn anodd cael sampl, ac mae plant yroedran hwnnw yn llawer llai tebygol o drosglwyddo’r feirws, meddai.

“Yn dilyn cyngor gan ein grŵp cynghori ar brofion, rwyf wedi cytuno na fyddwn mwyach yn argymell bod plant o dan 5 oed yn cymryd profion COVID-19 heb symptomau. Pan fo gan blant o dan 5 oed symptomau, ni fyddem yn argymell profion fel rheol, oni bai bod meddyg yn dweud y dylid cymryd prawf neu fod rhieni’n credu bod prawf yn gwbl angenrheidiol ac er lles y plentyn,” meddai Jeremy Miles.