Mae’n bosibl y gallai un o bob tri babi gafodd eu geni’n farw mewn dau ysbyty yn ne Cymru fod wedi goroesi oni bai am gamgymeriadau clinigol difrifol, yn ôl adolygiad.

Canfu’r Panel Goruchwylio Mamolaeth Annibynnol fethiannau difrifol mewn 21 o 63 o achosion mewn dau ysbyty sy’n cael eu rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Digwyddodd yr achosion rhwng Ionawr 2016 a Medi 2018 yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant ac Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg o dan fesurau arbennig yn 2019.

Mewn 37 (59%) o achosion eraill, dywedodd yr adolygiad fod un neu fwy o fân gamgymeriadau wedi digwydd ac y gellid dysgu gwersi o 48 (76%) o achosion.

Dim ond pedwar achos (6%) ddaru’r panel ganfod lle nad oedd unrhyw broblemau gyda’r gofal a dderbyniwyd.

Amlygodd yr adroddiad hefyd sut yr oedd barn mamau beichiog yn aml yn cael ei hanwybyddu gan staff meddygol, ac roeddent yn teimlo na allent rannu eu pryderon.

Dywedodd un: “Pan es i mewn i weld yr ymgynghorydd eglurais fy mod wedi cael fy nerbyn ychydig ddyddiau ynghynt ac nad oeddwn yn teimlo’n dda iawn o hyd.

“Dywedais wrtho hefyd fy mod wedi sylwi fod y babi ddim yn symud hefyd.

“Nid oedd yn ymddangos yn bryderus.”

“Gofal annigonol”

Roedd yr adolygiad o’r 63 o achosion yn debyg yn fras i’r meysydd pryder a nodwyd gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd, a arweiniodd at roi gwasanaethau mamolaeth mewn mesurau arbennig.

“Roedd themâu allweddol yn cynnwys methiant i wrando ar fenywod a gwerthfawrogi eu barn, agweddau ac ymddygiad amhriodol gan staff a chymorth profedigaeth ac ôl-ofal annigonol,” meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.

“Yn anffodus, ni all unrhyw beth newid yr hyn a brofodd y menywod a’r teuluoedd hyn, ac mae’n ddrwg iawn gennyf am hynny.

“Mae fy meddyliau gyda’r holl fenywod a theuluoedd a brofodd marw-enedigaeth ac sy’n galaru colli eu plentyn.”

“Trasig”

Croesawodd y bwrdd iechyd yr adolygiad a dywedodd ei fod wedi ymrwymo i wella gwasanaethau mamolaeth.

Dywedodd Greg Dix, cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth: “Mae colli babi yn drasig i unrhyw deulu, ac mae ein cydymdeimlad diffuant a chalonogol yn mynd allan i’r holl deuluoedd sydd wedi colli plentyn i farw-enedigaeth yn ein bwrdd iechyd.

“Ni fyddwn byth yn anghofio’r trychinebau a ddioddefir gan fenywod, eu teuluoedd a’n staff.

“Dysgu o’r achosion hyn yw’r sylfaen ar gyfer adeiladu ein cynlluniau i wella.

“Byddwn yn sicrhau na fyddwn byth yn anghofio teuluoedd yn yr adolygiad, ac mai eu profiadau hwy fydd yr etifeddiaeth sy’n adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol.”

“Sgandal”

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George AoS: “Mae hwn yn ddiwrnod trasig i deuluoedd yn ne Cymru sydd wedi cael cadarnhad bod eu babanod wedi marw’n ddiangen.

“Mae’r adroddiad diweddaraf hwn i’r sgandal mamolaeth yng Nghwm Taf yn ddirdynnol ac mae fy meddyliau’n mynd at y mamau a’r teuluoedd a aeth drwy amgylchiadau mor drasig.

“Mae gan fenywod sy’n wynebu genedigaeth yr hawl i ddisgwyl gofal o ansawdd uchel, a’r cyfleoedd gorau i eni babi iach, ond cawsant eu siomi a’u methu yn y pen draw.

“Mae maint y sgandal hwn yn frawychus ac mae’n codi llawer o gwestiynau heriol i Gwm Taf, ei system reoleiddio, yn ogystal â’r Llywodraeth Lafur.”