Mae Facebook wedi beio trafferthion rhyngweithio am y ffaith bod y platfform, ynghyd ag Instagram a WhatsApp, ddim yn gweithio am sawl awr neithiwr (4 Hydref).

Fe wnaeth y platfformau gadarnhau ar Twitter yn hwyr neithiwr eu bod nhw’n ymwybodol o’r problemau, ar ôl i filoedd o bobol adrodd am y diffygion ychydig cyn 5yh ddoe.

Erbyn yn hwyr neithiwr, roedd Facebook ac Instagram yn gweithio eto, ac roedd WhatsApp yn “ôl ac yn gweithio 100%” erbyn 3:30 fore heddiw (5 Hydref).

Dywedodd Facebook eu bod nhw’n credu mai newidiadau yn eu rhyngweithiau oedd sail y broblem.

“Cafodd yr amhariaeth ar draffig rhyngweithio effaith ar y ffordd mae ein canolfannau data yn cyfathrebu, gan ddod â’n gwasanaethau i stop.

“Rydyn ni eisiau ei gwneud hi’n glir.. does gennym ni ddim tystiolaeth bod data defnyddwyr wedi’i effeithio o ganlyniad i’r toriad.”

Ychwanegodd Facebook eu bod nhw’n gweithio tuag at ddeall mwy ynghylch y broblem er mwyn “gwneud ein seilwaith yn fwy gwydn”.

Cwynion

Erbyn ychydig wedi 5yh neithiwr, roedd bron i 50,000 o bobol wedi cwyno bod Facebook ddim yn gweithio.

Roedd dros 75,000 wedi cwyno am WhatsApp, a dros 30,000 wedi cwyno am broblemau gydag Instagram.

Fe wnaeth gwerth cyfranddaliadau Facebook ostwng 4.9% yn sgil y broblem, a ddaeth ar yr un diwrnod ag y gwnaeth cyn-weithiwr honni bod y cwmni’n blaenoriaethu eu buddion eu hunain dros les y cyhoedd mewn cyfweliad yn yr Unol Daleithiau.

Effeithiodd y broblem ar blatfformau eraill, megis Twitter, yn sgil cynnydd mewn traffig ar y wefan a’r ap.

Trydarodd Twitter Support gan ddweud: “Weithiau mae mwy o bobol nag arfer yn defnyddio Twitter. Rydyn ni’n paratoi at yr adegau hyn, ond heddiw aeth pethau o chwith.

“Efallai y bydd rhai ohonoch chi wedi cael problemau’n gweld atebion a negeseuon uniongyrchol o ganlyniad. Mae hyn wedi cael ei drwsio. Sori am hynna!”