Mae gŵr Nazanin Zaghari-Ratcliffe yn galw ar Ysgrifennydd Tramor San Steffan i gymryd “camau clir” er mwyn sicrhau y gall ei wraig ddod adref o Iran.

Mae hi wedi’i charcharu yn y wlad ers 2016 ar ôl i’r awdurdodau ei chyhuddo o ysbïo, ac mae hi wedi cael dedfryd ychwanegol ers cael ei charcharu am bropaganda yn erbyn Llywodraeth Iran.

Mae disgwyl i Richard Ratcliffe drafod y sefyllfa â Liz Truss mewn sgwrs ffôn heddiw (dydd Sul, Medi 19).

Mae’n dweud bod cynnal sgwrs mor fuan â hyn ar ôl iddi gael ei phenodi’n “arwydd positif”.

“Yn rhannol, dw i jyst eisiau clywed bod hyn yn brif flaenoriaeth ac y byddan nhw’n dod â Nazanin ac eraill sy’n cael eu caethiwo fel sglodion bargeinio adref,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Yr wythnos hon, dylai [Liz Truss] fod yn cyfarfod â gweinidog tramor newydd Iran yn Efrog Newydd pan fyddan nhw yno ar gyfer digwyddiad y Cenhedloedd Unedig, felly gobeithio y bydd yna sgwrs bositif.

“Ar hyn o bryd, dw i’n credu mai digon yw digon, ac mae angen nodi’n glir iawn wrth Iran na allwch chi ddefnyddio pobol ddieuog yn y modd yma.

“Byddwn i wir yn dymuno iddyn nhw fod yn llym, yn ddewr a chymryd rhai camau clir.”