Mae gwyddonydd oedd wedi arwain yr ymchwiliad i E. coli yn 2005 wedi wfftio’r alwad am ymchwiliad Covid-19 ar wahân i Gymru.

Yn ôl yr Athro Hugh Pennington, sydd wedi bod yn siarad â rhaglen Sunday Politics Wales y BBC, byddai “gor-gyffwrdd sylweddol” rhwng yr ymchwiliad yng Nghymru ac ymchwiliad y Deyrnas Unedig.

Yn hytrach, mae’n galw am “sylw manwl” i Gymru yn yr ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r gwrthbleidiau a grwpiau ymgyrchu wedi bod yn galw am ymchwiliad sy’n benodol i Gymru, ond mae Llywodraeth Cymru’n dweud mai ymchwiliad ar draws y pedair gwlad yn unig fyddai’n gallu ymdrin â “natur gysylltiedig” y penderfyniadau sydd wedi’u gwneud gan y llywodraethau yn ystod y pandemig.

Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn galw am sicrwydd y bydd sylw dyledus i Gymru mewn unrhyw ymchwiliad.

Mae’r Athro Hugh Pennington yn dweud bod pedair gwlad y Deyrnas Unedig yn aml yn dilyn yr un cyngor gwyddonol, ac y byddai gan ymchwiliad Cymru yn unig lai o rym wrth alw tystion.

Mae’n rhybuddio yn erbyn y posibilrwydd y gallai Cymru gael ei thrin fel “troednodyn”, a hynny er bod yr Alban am gynnal ei hymchwiliad ei hun “cyn gynted â phosib”.

Mae’n argymell fod rhaid cynnwys Llywodraeth Cymru mewn unrhyw ymchwiliad, bod angen penodau ar wahân ar gyfer Cymru a bod angen ymgynghori ag arbenigwyr o Gymru.