Does “dim achos i boeni ar unwaith” ynghylch cyflenwadau nwy yn y Deyrnas Unedig, yn ôl Kwasi Kwarteng, Ysgrifennydd Busnes San Steffan.

Daw ei sylwadau yn dilyn cyfarfodydd â phenaethiaid y diwydiant yn sgil pryderon cynyddol am brisiau cyflenwadau.

Mae’n mynnu bod ynni’n “flaenoriaeth lwyr” i’r llywodraeth.

Galw uchel yn fyd-eang, materion cynnal a chadw ac allbwn ynni solar a gwynt is sy’n bennaf gyfrifol am y sefyllfa, yn ôl rhai.

“Heddiw, rwyf wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd unigol ag uwch benaethiaid o’r diwydiant ynni i drafod effaith prisiau nwy uchel yn fyd-eang,” meddai Kwasi Kwarteng ar Twitter.

“Cefais fy sicrhau nad oedd sicrwydd cyflenwadau’n achos i boeni ar unwaith o fewn y diwydiant.

“Mae’r Deyrnas Unedig yn elwa o fod ag ystod eang o ffynonellau cyflenwi nwy, gyda digon o gapasiti i fwy nag ateb y galw.

“Mae system nwy y Deyrnas Unedig yn parhau i weithredu’n ddibynadwy a dydyn ni ddim yn disgwyl argyfyngau sydyn o ran cyflenwadau y gaeaf hwn.”

Gwarchod cwsmeriaid

Mae lle i gredu bod Kwasi Kwarteng wedi cyfarfod ag uwch benaethiaid Ofgem, Centrica, y Grid Cenedlaethol, Energy UK, Octopus, Ovo, SSE, EDF, ScottishPower, Shell Energy, E.ON, Bulb ac SGN.

Mae’n dweud bod gwarchod cwsmeriaid rhag prisiau uchel a chynyddol yn “flaenoriaeth lwyr”, a’i fod yn hyderus y gellid cynnal sicrwydd ynni wrth gynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy.

Mae disgwyl iddo gyfarfod â phenaethiaid Ofgem eto heddiw (dydd Sul, Medi 19) cyn trefnu cyfarfodydd pellach yfory (dydd Llun, Medi 20).

Daw hyn wrth i gyn-bennaeth Ofgem rybuddio am brisiau uchel am weddill y flwyddyn.

Yn ôl Dermot Nolan, cyn-brif weithredwr Ofgem, daw’r cynnydd mewn prisiau yn sgil stoc isel yn dilyn gaeaf oer y llynedd, llai o gyflenwadau o Rwsia a mwy o alw am nwy naturiol ar ffurf hylif o’r Dwyrain Pell.

“Dydy hi ddim yn amlwg i fi beth all gael ei wneud yn y tymor byr iawn,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.

“Mae gan Brydain ffynonellau nwy eithaf eang, felly rwy’n credu y bydd y golau’n aros ymlaen.

“Ond rwy’n ofni ei bod hi’n debygol, yn fy marn i, y bydd prisiau nwy a thrydan uchel yn cael eu cynnal am y tri neu bedwar mis nesaf.

“Mae’n anodd iawn rhagweld beth all y Llywodraeth ei wneud yn uniongyrchol yn hynny o beth.”

Mae Llafur wedi beirniadu’r Llywodraeth Geidwadol Prydain am beidio ag ymateb i’r sefyllfa’n gynt, ac mae Ofgem yn dweud eu bod nhw’n “cydweithio” â’r Llywodraeth i geisio datrys y sefyllfa.