Mae gwledydd y Gorllewin yn teimlo’r sgil effeithiau o beidio ymyrryd yn Syria, meddai Canghellor Prydain, George Osborne.

Daw sylwadau Osborne wrth i Lywodraeth Prydain geisio cefnogaeth y gwrthbleidiau er mwyn cynnal cyrchoedd awyr yn y wlad i leihau bygythiad y Wladwriaeth Islamaidd.

Bydd Prif Weinidog Prydain, David Cameron yn cyflwyno’r achos o blaid cyrchoedd awyr pan fydd yn annerch gwleidyddion yn San Steffan yr wythnos nesaf.

Bydd Cameron ac Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande yn cyfarfod ym Mharis ddydd Llun wrth i ddinas Brwsel yng Ngwlad Belg wynebu’r posibilrwydd o ymosodiad brawychol tebyg i’r rhai a gafwyd ym mhrifddinas Ffrainc.

Dywedodd George Osborne wrth raglen Andrew Marr ar BBC1: “Yr wythnos hon, rydyn ni’n mynd i gynyddu ein hymdrechion diplomyddol, ein hymdrechion dyngarol a chyflwyno’r achos tros gynyddu’r ymdrechion milwrol yn erbyn Isil.

“Bydd y Prif Weinidog yn ceisio cefnogaeth ar draws y Senedd ar gyfer cyrchoedd yn erbyn y sefydliad brawychol hwnnw yn Syria.

“Yn blwmp ac yn blaen, dydy Prydain erioed wedi bod yn wlad sy’n sefyll ar yr ymylon nac yn dibynnu ar eraill i’n hamddiffyn ni.”

Mae pwyllgor materion tramor San Steffan wedi mynegi pryder am gynlluniau’r Ceidwadwyr i gynnal cyrchoedd awyr yn Syria.

Ond mae’r blaid yn dweud bod yr hinsawdd wleidyddol ar hyn o bryd yn cyfiawnhau cymryd camau o’r fath.

Ychwanegodd Osborne y byddai colli pleidlais arall – yn dilyn pleidlais flaenorol i gynnal cyrchoedd awyr – yn hwb i’r Wladwriaeth Islamaidd, ac nad oedd yn barod i hynny ddigwydd eto.

Dywedodd na fyddai pleidlais yn cael ei threfnu oni bai bod y llywodraeth yn hyderus o ennill.

Ymhlith y rhai sy’n gwrthwynebu’r cyrchoedd awyr yn Syria mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Mae Corbyn wedi galw am ddarganfod ateb diplomyddol i’r sefyllfa yn Syria.

Ond mae Corbyn yn wynebu’r posibilrwydd y gallai aelodau ei blaid ei hun ei wrthwynebu.