Safle'r ddamwain yn Shoreham
Mae cannoedd o bobol yn mynychu gwasanaeth coffa 11 o bobol a gafodd eu lladd pan blymiodd awyren Hawker Hunter i ganol yr A27 yn Swydd Sussex dri mis yn ôl.

Mae teuluoedd yr 11, diffoddwyr tân, plismyn, parafeddygon a gwirfoddolwyr ymhlith y rhai a gafodd wahoddiad i’r gwasanaeth mewn capel ger safle’r ddamwain.

Cafodd y gwasanaeth, dan ofal Esgob Chichester Dr Martin Warner, ei drefnu gan y gwasanaethau brys a’r gymuned leol.

Digwyddodd y ddamwain ar Awst 22 yn ystod sioe awyr yn Shoreham.

Y rhai fu farw oedd Maurice Abrahams (76), James Graham Mallinson (72), Mark Trussler (54), Dylan Archer (42), Richard Smith (26), Tony Brightwell (53), Mark Reeves (53), Matthew Grimstone (23), Jacob Schilt (23), Matt Jones (24) a Daniele Polito (23).