Senedd-dy Brwsel
Mae’r heddlu yng Ngwlad Belg yn parhau i chwilio am nifer o unigolion sy’n cael eu hamau o fod â chysylltiadau â brawychiaeth.

Dywedodd un o weinidogion llywodraeth y wlad, Jan Jambon fod y bygythiad ar hyn o bryd yn fwy na’r bygythiad a gafodd ei achosi gan Salah Abdeslam, un o’r rhai sy’n cael eu hamau o gyflawni’r gyflafan ym Mharis a laddodd 130 o bobol.

Mae lefel diogelwch Brwsel wedi cyrraedd y lefel uchaf posibl yn sgil y bygythiad.

Bydd llywodraeth Gwlad Belg yn adolygu’r sefyllfa ddydd Llun.