Mae tua 100 o bobol wedi cael eu
lladd yn dilyn tirlithriad yng ngogledd Myanmar.
Mae cannoedd o bobol yn dal ar goll, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw mewn pentrefi yn nhalaith Kachin.
Cafodd cartrefi yn yr ardal eu dymchwel.
Mae timau achub yn chwilio’r safle i geisio dod o hyd i ragor o bobol yn fyw.
Mae pentref Hpakant yn nhalaith Kachin ryw 600 milltir i’r gogledd o ddinas Yangon, ac mae’n gartref i’r diwydiant cloddio arenfaen sy’n werth biliynau o bunnoedd i economi’r wlad.