Mae dyn 26 oed wedi cael anafiadau difrifol i’w ben yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a thractor ym Mro Morgannwg ddydd Sadwrn.

Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng car Mazda 323 arian a thractor yn Nhresimwn am 3.24yp.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger tafarn yr Old Post ger yr A48.

Mae’r dyn 26 oed yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.