Mae’r M4 yn Abertawe ynghau i gyfeiriad y dwyrain yn dilyn gwrthdrawiad difrifol fore Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r draffordd rhwng cyffordd 45 Ynysforgan a chyffordd 44 Llansamlet am oddeutu 7.40yb.

Fe fu cryn oedi yn yr ardal, ac mae traffig bellach yn cael ei ddargyfeirio.

Mae disgwyl i’r ffordd fod ynghau am rai oriau.