Mae’r cyflwynydd teledu John Leslie wedi cael ei holi gan yr heddlu ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar ddynes 22 oed.

Honnir i’r ymosodiad fod wedi digwydd yn dilyn noson wobrwyo nos Iau.

Mae’r heddlu wedi bod yn chwilio cartref Leslie yng Nghaeredin.

Mae lle i gredu ei fod wedi cael ei ddiarddel o’i waith fel cyflwynydd ar orsaf radio Forth 2 tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Mae cwmni Bauer Media sy’n berchen yr orsaf wedi gwrthod gwneud sylw.

Mae Heddlu’r Alban wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i’r digwyddiad.