Mae dau o arweinwyr gwrthblaid Bangladesh wedi cael eu dienyddio wedi iddyn nhw gael eu canfod yn euog o droseddau rhyfel.
Cafodd y troseddau eu cyflawni yn ystod rhyfel annibyniaeth y wlad yn 1971.
Cafodd arweinydd Plaid Genedlaethol Bangladesh, Salahuddin Quader Chowdhury ac ysgrifennydd cyffredinol y blaid Islamaidd Jamaat-e-Islami, Ali Ahsan Mohammad Mujahid eu crogi yng ngharchar canolog Dhaka.
Mae plaid Jamaat-e-Islami wedi galw am gynnal streic ar draws y wlad ddydd Llun.
Cafwyd Chowdhury yn euog o arteithio, treisio a hil-laddiad yn ystod y rhyfel annibyniaeth yn erbyn Pacistan, tra bod Mujahid wedi’i ganfod yn euog o hil-laddiad, arteithio, cipio a chynllwynio i ladd.
Cafodd apêl yn erbyn y ddedfryd ei gwrthod ddydd Sadwrn.
Mae llywodraeth Bangladesh wedi cael eu cyhuddo o gynnal achosion llys y ddau mewn modd gwleidyddol, ond maen nhw wedi gwadu’r honiadau.
Bellach, mae mwy na 15 o bobol wedi’u canfod yn euog o droseddau rhyfel yn ystod y rhyfel annibyniaeth.
Cafodd tair miliwn o bobol eu lladd a 200,000 o fenywod eu treisio yn ystod y rhyfel yn 1971.