Mae cwmnïau morgeisi wedi mynd ati i symleiddio’u costau yn dilyn pryderon nad yw cwsmeriaid yn eu deall.
Oherwydd diffyg dealltwriaeth o’r costau, mae rhai cwsmeriaid yn talu gormod o gostau ar forgeisi.
Y Cyngor Benthycwyr Morgeisi a Which? sydd wedi lansio’r ymgyrch.
Rhybuddiodd Which? y llynedd fod cwsmeriaid yn ei chael yn anodd dod o hyd i’r cynigion gorau oherwydd bod y costau’n rhy gymhleth.
Mae’r drefn newydd yn defnyddio terminoleg syml, sy’n golygu bod enwau nifer fawr o gynlluniau ffioedd wedi cael eu cysoni.
Fe fydd cwmnïau’n arddangos y drefn newydd ar eu gwefannau erbyn diwedd y flwyddyn fel bod modd i gwsmeriaid gymharu cynigion.
Mae’r ffioedd sydd wedi’u cynnwys yn y drefn newydd yn cynnwys ffioedd ceisio am forgais, ffioedd cyfreithiol, ffioedd cynnyrch a ffioedd prisio.
Dywedodd prif weithredwr Which?, Richard Lloyd: “Rydym yn falch fod ein gwaith gyda’r CML wedi arwain at symleiddio ffieoedd a chostau.
“Dylai’r camau newydd hyn ei gwneud lawer yn haws i bobol gymharu ffioedd morgeisi. Gobeithio y bydd yr holl ddarparwyr morgeisi’n gwneud y newidiadau hyn cyn gynted ag y bo modd.”
Ychwanegodd cyfarwyddwr cyffredinol y Cyngor Benthycwyr Morgeisi, Paul Smee: “Mae benthycwyr wedi cyd-dynnu’n llwyddiannus i gyflwyno nifer o fesurau synhwyrol i helpu cwsmeriaid i ddeall.
“Gobeithio’n fawr y bydd y tariff newydd a therminoleg safonol yn ei gwneud yn haws o lawer i ddeall a chymharu costau morgeisi. Mae cael cydweithio â Which? wedi bod yn amhrisiadwy.”