Mae Cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi cysylltu gyda’r awdurdod cymodi i ddechrau trafodaethau gyda’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt, cyn bwrw ymlaen i streicio ddechrau Rhagfyr.
Bu i fwyafrif llethol – 98% – o ddoctoriaid iau bleidleisio o blaid streicio yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth i newid cytundebau. Maen nhw’n pryderu y byddan nhw’n cael eu gorweithio dan y cynlluniau newydd, ac y bydd cleifion mewn perygl o ganlyniad.
Dywedodd Dr Mark Porter, Cadeirydd y BMA: “Mae’r Llywodraeth wedi dod â ni i’r sefyllfa yma drwy fwrw ymlaen gyda chytundeb sy’n anniogel i gleifion yn y dyfodol, ac yn annheg ar ddoctoriaid yn awr ac yn y dyfodol.”
Ychwanegodd: “Ein blaenoriaeth gyntaf yw’r cleifion, a dyna pam gyda’r mandad pendant, yr ydym yn awyddus i osgoi gweithredu diwydiannol, a dyna pam hefyd ein bod wedi cysylltu gyda’r awdurdod cymodi Acas i gynnig trafodaethau cymodol gyda’r Ysgrifennydd Iechyd a Chyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd er mwyn gadarnhau unrhyw wybodaeth anghyson sy’n dod o gyfeiriaiad y Llywodraeth dros yr wythnosau diwethaf.
“Ein neges i’r Ysgrifennydd Iechyd heddiw yw bod doctoriaid iau wedi mynegi eu barn yn berffaith glir. Ond mae dal yn bosib dychwelyd i’r bwrdd trafod er mwyn sicrhau cytundeb sy’n ddiogel i gleifion, ac sy’n cynnwys yr amodau angenrheidiol er mwyn rhwystro doctoriaid iau rhag cael eu gorweithio ac yn cydnabod yn iawn waith gyda’r nos a thros y penwythnos.”
Dadl Llywodraeth Prydain
Mae’r Gweinidog Iechyd Jeremy Hunt yn dadlau nad yw’r Llywodraeth eisiau cwtogi cyflogau doctoriaid iau, ond bod yn hytrach eisiau newid y strwythur tâl gan sicrhau fod yna fwy o ddoctoriaid ar gael yn ystod y penwythnosau.
Y bwriad yw gwneud y Gwasanaeth Iechyd yn ‘wasanaeth saith diwrnod yr wythnos’ yn ôl Jeremy Hunt, sy’n dweud ei bod hi’n fwy tebygol i glaf farw dros y penwythnos o’i gymharu gyda ganol wythnos ar hyn o bryd.