Mae nifer y bobol ifanc ym Mhrydain sydd ddim mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant wedi gostwng 106,000 yn y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn y tri mis hyd at fis Medi eleni roedd 848,000 o bobl ifanc rhwng 16 a 24 ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant.

Mae hynny 106,000 yn is na’r nifer cyfatebol ym mis Medi 2014.

O blith holl bobol ifanc 16-24 oed Prydain, mae 11.7% sy’ ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant – y criw sy’n cael eu galw yn NEETS (Not In Education, Employment or Training).

Mae hanner y NEETS yn chwilio am waith.

Dywedodd Kirstie Donnelly, rheolwr gweithredol y corff cymwysterau City & Guilds: “Mae’n gadarnhaol gweld cwymp yn y nifer sydd ddim mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant, a dw i’n dychmygu y bydd y newyddion yn cael ei groesawu gan y Llywodraeth ar drothwy’r adolygiad gwariant yr wythnos nesaf.”

Sech hynny mae Kirstie Donnelly yn dadlau fod nifer y NEETS yn parhau yn annerbyniol o uchel: “Y gwir amdani ydi fod mwy na 11% o bobl ifanc yn parhau yn ddi-waith, ddim mewn addysg neu hyfforddiant, ac mae’r ffigwr hwn yn rhy uchel i’r Llywodraeth fod yn gorffwys ar eu rhwyfau.”

Ychwanegodd: “Mae angen strategaeth glir gan y Llywodraeth, yn enwedig os ydi nawdd yn y fantol, i baratoi pobol ifanc ar gyfer y gweithle a’u galluogi i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y dyfodol.”