Ffatri ddur Celsa, Sblot, Caerdydd. Llun: Gwefan Celsa
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddau a gafodd eu lladd mewn ffrwydrad yng ngweithfa dur Celsa yng Nghaerdydd ddoe.
Mae dynion fu farw wedi cael eu henwi; Peter O’Brian, 51 o Lanisien a oedd yn dad i chwech. A Mark Sim, 41 o Gil-y-Coed, Sir Fynwy.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r weithfa yn dilyn y ffrwydrad am tua 10:30 y bore gan anafu pump o weithwyr eraill.
Mae ymchwiliadau i’r ddamwain farwol yn parhau gydag Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar y safle.
Corbyn yn cydymdeimlo
Mae Arweinydd y Blaid Lafur, a oedd yn Abertawe heddiw, wedi talu teyrnged i’r ddau fu farw. Yn ôl Jeremy Corbyn mae’r digwyddiad yn atgoffa pobol o’r peryglon y mae gweithwyr y diwydiant trwm yn eu hwynebu bob dydd.
“Mae hyn yn newyddion trist iawn i bawb yng Ngweithfa Dur Celsa a’r gymuned yng Nghaerdydd,” meddai.
“Mae fy nghydymdeimladau, a rhai’r Blaid Lafur, â’r teuluoedd a ffrindiau sydd wedi colli eu hanwyliaid a’r rhai sydd wedi cael eu hanafu.”
Dau arall yn dal i fod yn yr ysbyty
Wrth drafod y pump oedd wedi cael eu hanafu, dywedodd Heddlu De Cymru bod un wedi cael ei drin ar y safle a’r pedwar arall wedi eu cludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Mae dau wedi gadael yr ysbyty ac mae’r ddau arall yn dal i fod yn yr Uned Ddamweiniau Brys.
Meddai llefarydd ar ran cwmni Celsa: “Ein blaenoriaeth bennaf yw rhoi cymorth i bawb oedd yn rhan (o’r digwyddiad) ac rydym mewn cysylltiad agos ag Ysbyty Athrofaol Cymru, lle mae’r rhai a gafodd niwed yn cael gofal.”