Mae disgwyl i’r BBC gyhoeddi y bydd yn dod a’r gwasanaeth Botwm Coch i ben ac yn lleihau ei allbwn chwaraeon er mwyn gwneud arbedion o £150 miliwn.
Dywedodd newyddion y BBC y byddai’r gorfforaeth yn torri £35 miliwn o’i hawliau chwaraeon, ar ôl penderfynu eisoes i beidio darlledu Pencampwriaeth Agored Golff.
Bydd rhaglenni poblogaidd fel Strictly Come Dancing a rhaglenni drama’r BBC yn cael eu diogelu rhag y toriadau gwerth £12 miliwn i gyllideb deledu’r gorfforaeth.
Yn ôl y darlledwr, mae’n rhaid gwneud arbedion gan fod mwy o bobol yn gwylio rhaglenni ar ôl cael eu darlledu ar deledu, ar ei wasanaeth ar-lein, BBC iPlayer, heb orfod talu’r ffi drwydded.
Mae gwasanaeth Botwm Coch y BBC yn cael ei ddefnyddio i ddangos sianeli ychwanegol i wylwyr ar gyfer digwyddiadau mawr fel Glastonbury a Wimbledon.
Siarter y BBC yn cael ei hadolygu gan y Llywodraeth
Mae ariannu’r BBC yn bwnc llosg ar hyn o bryd gan fod siarter frenhinol y BBC yn dod i ben y flwyddyn nesaf ac yn cael ei hadolygu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Roedd yr Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale wedi mynnu ddoe nad oedd yn bwriadu dibrisio’r BBC.
Cyn cyhoeddi’r Gyllideb genedlaethol ar ddechrau’r flwyddyn, fe wnaeth y BBC gytuno i helpu i ariannu toriadau gwario drwy roi trwyddedau teledu am ddim i bobol dros 75 oed.
Bydd yn costio tua £750 miliwn i’r BBC erbyn 2020, sydd bron yn un rhan o bump o’i incwm blynyddol ar hyn o bryd.