Charlie Sheen
Mae un o sêr Hollywood wedi gwneud cyhoeddiad personol heddiw ar raglen deledu America, gan ddweud ei fod yn HIV positif.

Mae actor y ffilm Platoon, Charlie Sheen wedi cyhoeddi ei fod wedi derbyn diagnosis i’r cyflwr pedair blynedd yn ôl.

Fe fu honiadau a dyfalu am gyflwr iechyd yr actor 50 oed yn ystod y diwrnodau’n arwain at y cyfweliad, ac yn ystod y rhaglen fe ddywedodd, “Dw i yma i gyfaddef fy mod i’n HIV positif.”

“Mae’n rhaid imi roi terfyn ar yr ymosodiad a’r is-wirioneddau sy’n bygwth iechyd gymaint o bobol,” ychwanegodd.

‘Tair llythyren anodd i’w derbyn’

Mae Charlie Sheen yn adnabyddus am actio mewn ffilmiau gan gynnwys Ferris Bueller’s Day Off, Wall Street, ac ar y rhaglen deledu Two and a Half Men.

Fe gyfaddefodd ei fod wedi brwydro am flynyddoedd â chamddefnydd cyffuriau, a’i fod wedi treulio cyfnod yn rehab.

Fe ddywedodd ei fod wedi cael diagnosis ar ôl dioddef o bennau tost a chwysu wrth gysgu.

“Roedd rhaid i fi fynd i’r ysbyty, roeddwn i’n meddwl fod gen i diwmor ar yr ymennydd.”

“Maen nhw’n dair llythyren anodd i’w derbyn,” meddai’r gŵr sydd wedi bod yn briod deirgwaith a chanddo bump o blant.

Fe ddywedodd hefyd ei fod wedi talu pobol i gadw’n dawel am ei ddiagnosis.